Guy Debord

Guy Debord
GanwydGuy-Ernest Debord Edit this on Wikidata
28 Rhagfyr 1931 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1994 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Bellevue-la-Montagne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwneuthurwr ffilm, athronydd, cyfarwyddwr ffilm, dylunydd graffig, sgriptiwr, awdur ysgrifau, llenor, hunangofiannydd, cyfieithydd, ymgyrchydd heddwch, cynllunydd gems, artist Edit this on Wikidata
MudiadInternationale situationniste, Letterist International Edit this on Wikidata
PriodAlice Becker-Ho Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd Marcsaidd a gwneuthurwr ffilmiau o Ffrainc oedd Guy Debord (28 Rhagfyr 193130 Tachwedd 1994).[1]

Ganed ym Mharis, ac yn ei ieuenctid daeth yn gyfeillgar ag artistiaid a deallusion adain-chwith y ddinas. Cynhyrchodd ei ffilm gyntaf, Hurlements en faveur de Sade, yn 1952.

Gweithiodd gyda Isidor Isou a Maurice Lamaitre, aelodau'r cymundod artistig L'Internationale lettriste, i wneud celf arbrofol a elwir "gwrth-gelf" a chanddi ei gwreiddiau ym mudiadau Dada a Swrealaeth.

Ysgrifennodd nifer o erthyglau a golygodd sawl rhifyn o gylchgawn L'Internationale Situationniste. Cyhoeddodd ei gampwaith, La société du spectacle, yn 1967.

Tynnodd ar syniadaeth yr avant-garde ac astudiaethau pensaernïaeth, y sinema, a chynllunio tref yn ogystal â damcaniaeth Marx yn ei ymdriniaeth o'r "sbectacl" fel amlygiad o ymddieithriad a thrin profiad y ddynolryw yn gynwydd. Cyhoeddodd ddilyniant i'r gwaith hwnnw, Commentaires sur la société du spectacle, yn 1988.

Bu farw trwy hunanladdiad yn 62 oed.

  1. (Saesneg) Sadie Plant, "Obituary: Guy Debord[dolen farw]", The Independent (2 Ionawr 1995). Adalwyd ar 30 Ionawr 2020.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in